Gwyl Criccieth Festival: Cyffeillion Gwyl Criccieth
Gwyl Criccieth Festival; Cyfeillion

cartref | croeso | rhaglen | tocynnau | cysylltiad | cyfeillion | noddwyr | taith | saesneg

Help llaw gan Gyffeillion Gwyl Criccieth...

Mae cefnogaeth y Cyfeillion yn hanfodol bwysig i lwyddiant yr Wyl bob blwyddyn. Mae nifer y Cyfeillion sy'n ymuno ac yn manteisio ar y gostyngiadau arbennig a roddir i'r Cyfeillion yn dal i gynyddu.

Dau brif fantais dod yn Gyfaill yw bod Cyfeillion yn medru

-o- archebu lle ymlaen llaw cyn i'r tocynnau fod ar gael
      i'r cyhoedd yn gyffredinol,
-o- A HEFYD BOD MODD CAEL GOSTYNGIAD O 10%
      AR GYFER POB DIGWYDDIAD ac eithrio Cinio'r Wyl.

Mae tanysgrifiad y Cyfeillion yn dal i fod yr un fath eleni, £12 i unigolyn a £18 i ddau berson yn yr un ty. Cewch ymuno RWAN a thrwy gynnwys eich tâl aelodaeth gyda'ch cais am docynnau byddwch yn medru cael gostyngiad ar y prisiau ac archebu ymlaen llaw. Bydd gan Gyfeillion unigol yr hawl i gael UN tocyn a chaiff dau Gyfaill DDAU docyn ar gyfer pob digwyddiad am bris gostyngol.

Os ydych yn drethdalwr, fe allwch fod o fudd i'r Wyl (Elusen Gofrestredig rhif 700947) drwy alluogi ad-daliadau treth incwm ar y raddfa arferol.

Gofynnwch am ffurflen pan yn archebu eich tocynnau!

Cyfeillion Gwyl Criccieth
Noddwyr Gwyl Criccieth 2007

Collage Gwyl Criccieth
cliciwch yma i droi'r tudalen!

nesaf

cartref | croeso | rhaglen | tocynnau | cysylltiad | cyfeillion | noddwyr | taith | saesneg

Swyddfa Gwyl Criccieth Llyfrgell, Stryd Mawr, Criccieth LL52 0RN | Ffôn (01766) 522778 | Ebost
Cymdeithas Celfyddydau Criccieth sydd yn gyfrifol am drefnu Gwyl Criccieth • Elusen Gofrestredig Rhif 700947